Cynllun Strategol a Chenhadaeth
Ein Cenhadaeth
I gyflwyno addysg ac ymchwil sy'n ysbrydoli mewn amgylchedd cefnogol, creadigol ac eithriadol yng Nghymru.
Ein Gweledigaeth
Gan adeiladu ar ein cryfderau hanesyddol a’n henw da am ragoriaeth, byddwn yn cyfrannu at gymdeithas yng Nghymru a’r byd ehangach trwy gymhwyso ein gwybodaeth i heriau lleol a byd-eang. Gan weithio o fewn cymuned gefnogol, groesawgar a dwyieithog, byddwn yn defnyddio ein harbenigedd i feithrin meddwl beirniadol, holi annibynnol a sgiliau sy’n ymbaratoi ein myfyrwyr ar gyfer bywydau llwyddiannus.
Ein Gwerthoedd
Trawsnewidiol
Rydym yn ffurfio a meithrin cryfderau personol cadarn sy'n hybu llwyddiant pobl yn y dyfodol. Mae ein cymuned o staff a myfyrwyr yn ysgogi newidiadau cadarnhaol trwy fynd i'r afael â heriau lleol a byd-eang. Rydym yn annog dyfeisgarwch trwy syniadau a gweithrediadau newydd, mewn cyd-destun o fentergarwch. Rydym yn ymdrechu i ddatgloi addewid unigolion.
Creadigol ac arloesol
Rydym yn annog meddwl beirniadol, rhydd a llawn dychymyg. Rydym yn ysgogi canlyniadau unigryw trwy dynnu ar ein diwylliant a'n hanes unigryw ni yng Nghymru, ein hamgylchedd ac adnoddau eithriadol. Rydym yn meithrin dyfeisgarwch staff a myfyrwyr i ddatrys problemau, addasu a bod yn amryddawn.
Cynhwysol
Rydym yn hyrwyddo natur agored a haelioni ysbryd ac yn coleddu'r ymdeimlad cryf o gymuned sydd i'w deimlo ledled y Brifysgol, yn nhref Aberystwyth a'n byd ehangach. Rydym yn ymfalchïo yng nghyfoeth yr amrywiaeth o ddiwylliannau, athroniaethau a chefndiroedd ymhlith ein staff a'n myfyrwyr.
Uchelgeisiol
Rydym yn gweithio i hybu'r enw da sydd gennym ledled y byd am ddarganfyddiadau, ansawdd addysgiadol ac arloesedd. Rydym wedi ymrwymo i ragoriaeth mewn ymchwil, addysgu ac ymgysylltiad. Rydym yn dathlu cyrhaeddiadau, cyflawniadau a chyfraniadau ein staff, ein myfyrwyr a'n cyn-fyfyrwyr.
Cydweithrediadol
Mae ein cymuned academaidd yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i hyrwyddo’r Gymraeg a’i diwylliant, i drafodaeth gyhoeddus, ac i'r economi leol ac ehangach. Rydym yn gweithio gyda'n myfyrwyr, yn unigolion ac ar y cyd, i sicrhau gwelliannau parhaus i brofiad y myfyriwr a'r amgylchedd dysgu sydd yn Aberystwyth. Fe fynegwn waith a gwerth y Brifysgol i'r byd ehangach ac ymgysylltwn â phobl wrth gyflawni'n gweledigaeth.
Ein Hamcanion Craidd
Ein haddysg a phrofiad myfyriwr
Byddwn yn galluogi ein myfyrwyr i ddatgloi eu potensial a datblygu fel dysgwyr annibynnol mewn cymuned ddwyieithog gefnogol a chreadigol. Bydd ein myfyrwyr yn graddio fel meddylwyr beirniadol annibynnol gyda sgiliau trosglwyddadwy a disgyblaeth-benodol. Bydd myfyrwyr yn dod ar draws ein hymchwil ardderchog drwy brosiectau ymarferol ac hyfforddiant ymchwil dan arweiniad.
Ein hamcanion:
- Parhau i ddatblygu ein darpariaeth israddedig i sicrhau cyrsiau deniadol a safonol sy'n arwain at swyddi ar lefel raddedig
- Meithrin dysgu ac addysgu blaengar (i gynnwys dysgu hyblyg) sy'n cael ei gydnabod yn y sector i fod yn feincnod arfer gorau yn y Gymraeg a’r Saesneg
- Cyfoethogi ein maes llafur gydag ymchwil neilltuol a wneir yn y Brifysgol
- Datblygu’r ddarpariaeth uwchraddedig wedi’i thargedu er mwyn cyflwyno rhaglenni manwl sy'n ddeniadol i fyfyrwyr cartref a rhyngwladol
- Ymgorffori sgiliau cyflogadwyedd ar draws ein hymrywiaeth o raglenni gan gynnwys cyfleoedd profiad gwaith, gwirfoddoli, profiadau rhyngwladol, a sgiliau trosglwyddadwy eraill
- Hyrwyddo a hwyluso datblygiad staff mewn pedagogeg i yrru gwelliant cyson yn ein profiad dysgu ac addysgu
- Gwella'r profiad myfyriwr ymhellach a chydweithio'n agos ag Undeb y Myfyrwyr i gadw llais y myfyriwr yn ganolog i’n gweithgaredd
Ein hymchwil ac arloesi sy'n cael effaith
Fel sefydliad dwyieithog, sy'n cael ei arwain gan ymchwil, byddwn yn cefnogi a datblygu ymchwilwyr i ymgymryd ag ymchwil sy'n cael effaith ac sydd o ansawdd gyda'r gorau yn y byd. Byddwn yn adeiladu ar ein cryfderau hanesyddol er mwyn mynd i’r afael â heriau chyfoes sy’n wynebu Cymru a’r byd yn yr 21ain Ganrif. Bydd ein hymchwilwyr yn arwain i arloesi mewn diwydiant a pholisi cyhoeddus, a byddant yn cyfrannu at dwf ein heconomi leol ac ehangach.
Ein hamcanion:
- Cynyddu'r màs critigol o dimau ymchwil ymhellach mewn meysydd rhagoriaeth wedi'u diffinio, gan gynnwys ymchwil ryngddisgyblaethol sy'n cynhyrchu gwaith o'r ansawdd uchaf
- Datblygu’r niferoedd o arweinwyr ymchwil da ar draws y Brifysgol gan gynnwys hyfforddi a mentora ym mhob cyfnod gyrfa
- Annog ymchwilwyr i gydweithio ac ehangu eu profiad
- Datblygu potensial ymchwil yr holl staff
- Cynyddu incwm ymchwil trwy anelu am amrywiaeth o ffynonellau yn ogystal â chynnydd yn y cyllid o Gronfa Ymchwil Heriau Byd-eang y Cyngor Ymchwil
- Cynyddu nifer y myfyrwyr ymchwil, yn enwedig ym meysydd cadarn ein hymchwil, a gweithio trwy Ganolfannau Hyfforddi Doethurol
- Buddsoddi yn natblygiad dylanwad ac effaith ein hymchwil a sgiliau mentergarwch ein hymchwilwyr
- Ehangu a datblygu cysylltiadau â phartneriaid diwydiannol, masnachol a diwylliannol addas a chynyddu'r cyfraniad a wnawn i'r economi leol ac ehangach
Ein cyfraniad i Gymdeithas
Rydym yn brifysgol ddwyieithog, wedi'i gwreiddio yng Nghymru ac yn croesawu'r byd. Rydym bob amser wedi cyfrannu’n sylweddol i Gymru a thu hwnt, gan fanteisio ar ein cymunedau a’n cymdeithas trwy effaith ein hymchwil, ein haddysg a chyrhaeddiadau ein staff, myfyrwyr a’n cyn-fyfyrwyr. Rydym yn trwytho’n graddedigion gyda hyfforddiant academaidd a gwerthoedd dinasyddiaeth byd-eang a chenedlaethol. Rydym yn deall ein cyfrifoldeb a’n hatebolrwydd i gymdeithas. Rydym am fod yn hygyrch, yn berthnasol ac ynghlwm â’n cymunedau a’n rhan ddeiliaid. Yn anad dim, rhaid i ni fod yn ffynhonnell awen ac ysbrydoliaeth. Byddwn yn cryfhau a chyfathrebu’n well y dimensiwn hwn o’r gwaith dros y pum mlynedd nesaf.
Ein hamcanion:
- Canolbwyntio ar fynd i’r afael â heriau cyfoes drwy ein hymchwil a datblygiad trafodaeth ar sail tystiolaeth yng Nghymru ac yn ehangach
- Defnyddio ein harbenigedd i feithrin datblygiad economaidd yn lleol a thu hwnt
- Creu cynnig rhyngddisgyblaethol i bob myfyriwr, gan gynnwys y gymuned leol, i drafod materion ehangach ac i ymestyn y tu hwnt i’w cwricwlwm eu hunain
- Cyfrannu at adnoddau'r rhanbarth drwy rannu cyfleusterau gyda’r gymuned
- Cael effaith ar wleidyddiaeth, diwylliant, economi a gwasanaethau cyhoeddus Cymru drwy ein harbenigedd a gwybodaeth
Yn benodol, rydym wedi ymrwymo i wella mynediad i addysg uwch ac am barhau i annog cyfranogiad a gweithgareddau cydweithredol trwy bartneriaethau helaeth.
Ein hamcanion yw:
- Gweithio gydag ysgolion, colegau Addysg Bellach a chyflogwyr er mwyn gwella dysgu 14 i 19 traws-gwricwlaidd ledled Cymru
- Gwneud yr Hen Goleg yn ganolfan ddiwylliannol eithriadol i'r Brifysgol, y gymuned ac ymwelwyr
- Parhau i ddarparu cyfleoedd o bob math i bawb, drwy Ganolfan y Celfyddydau, Canolfan Chwaraeon ac adrannau eraill
- Atgyfnerthu'r cydweithio rhwng y dref a'r brifysgol, trwy ddatblygu partneriaethau a gweithgareddau ymhellach megis gwaith gwirfoddol gan fyfyrwyr
Ymgysylltiad Rhyngwladol
Mae Aberystwyth yn brifysgol flaenllaw yng Nghymru ac mae ganddi enw rhagorol ledled y byd. Byddwn yn Brifysgol y bydd myfyrwyr yn dewis dod iddi er mwyn astudio yn ein hamgylchedd unigryw. Byddwn yn meithrin cytundebau fydd yn annog myfyrwyr i dreulio cyfnod yn astudio dramor. Byddwn yn bartner dymunol i sefydliadau rhyngwladol sy’n rhannu ein hamcanion a’n dyheadau.
Ein hamcanion:
- Adolygu'r holl gytundebau addysg ac ymchwil er mwyn datblygu partneriaethau sy'n canolbwyntio ar addysg ac ymchwil gyda sefydliadau rhyngwladol
- Cynnal amrywiaeth byrlymus y gymuned gan gynnig profiad rhyngwladol i bawb wrth gynyddu niferoedd y myfyrwyr rhyngwladol
- Datblygu trefn o ddenu carfan o uwchraddedigion safonol ac adeiladu ar fri ein rhaglen Doethuriaeth Broffesiynol
- Cloriannu cyfleoedd cyfredol a newydd ar gyfer Addysg TrawsGenedlaethol
- Cynorthwyo myfyrwyr rhyngwladol i loywi eu sgiliau iaith er mwyn iddynt fod yn aelodau hyderus yn ein cymuned ddiogel, gynhwysol
Yr iaith Gymraeg a’i diwylliant
Mae gan Aberystwyth hanes balch a chadarn o ddarparu addysg ac ymchwil trwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym yn parhau i ymrwymo i hyrwyddo iaith a diwylliant ein gwlad, ynghyd â hybu gwell dealltwriaeth o anghenion cymdeithasol-economaidd Cymru. Rydym am barhau i wella a chynyddu cyfleoedd cyfrwng Cymraeg i’n staff, myfyrwyr ac ymwelwyr.
Ein hamcanion yw:
- Hyrwyddo datblygiad y ddarpariaeth academaidd trwy gyfrwng y Gymraeg gan gynnwys Cymraeg fel disgyblaeth
- Sicrhau amgylchedd lle gall myfyrwyr ddewis byw a dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg
- Ailagor Neuadd Pantycelyn fel llety o’r radd flaenaf i fyfyrwyr sy’n siarad ac sy’n dysgu Cymraeg
- Sicrhau cyfleoedd yn yr iaith Gymraeg mewn meysydd megis lleoliadau cyflogaeth a blynyddoedd mewn diwydiant
- Annog staff i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gwaith a chael cyfleoedd i ddysgu a gloywi'r iaith
- Rhoi gwell dealltwriaeth i staff newydd o'r cyfleoedd sydd ar gael i ddysgu'r Gymraeg ac o gyd-destun diwylliannol a chymdeithasol-economaidd Cymru
- Gweithredu fel catalydd i ymwybyddiaeth, dealltwriaeth, gweithgareddau ac integreiddio diwylliannol
Rhoi ar Waith
Ein pobl
Ein pobl yw ein caffaeliad mwyaf ac mae gweithlu medrus, iach ac sy’n ymgysylltu'n llwyr yn hanfodol er mwyn gallu cyflenwi'r strategaeth. Rydym yn gwerthfawrogi ein academyddion, ein gweinyddwyr a phob aelod o staff sy’n cyfrannu at lwyddiant y Brifysgol hon. Rydym wedi ymrwymo i adeiladu ar foddhad, ysgogiad a morâl staff, ac i greu lle cefnogol ac ysbrydoledig i weithio.
Ein hamcanion:
- Sicrhau fod pob aelod o staff yn deall eu swyddogaeth, eu cyfrifoldebau a'u hatebolrwydd a chymryd rhan yn y Cynllun Cyfrannu Effeithiol blynyddol.
- Darparu cyfleoedd i staff ar draws y Brifysgol i gael hyfforddiant a datblygiad addas i’w swyddi a sicrhau eu bod nhw’n ymwybodol o’u cyfraniad i gyflawni amcanion y Brifysgol
- Gweithredu rhaglen newydd o ddatblygiad staff i alluogi gwell perfformiad yn ogystal â datblygiad unigolion a thîm
- Cael gwared â'r gwahaniaeth rhwng cyflogau dynion a menywod
- Hyrwyddo iechyd a lles staff a myfyrwyr
- Ennill marciau siarter priodol fel Athena Swan a Stonewall, a fydd yn dangos ymrwymiad y Brifysgol i gyfleoedd cyfartal ac amrywiol i bawb
- Rheoli cyfnodau salwch tymor byr a hir dymor staff yn weithredol a'u cefnogi i ddod yn ôl i'r gwaith
Llywodraethu
Mae llywodraethu effeithiol, effeithlon ac atebol yn nodwedd o'r Brifysgol. Mae ein llywodraethiant yn foesegol, hyblyg ac yn galluogi, gan sicrhau bod dyletswyddau cyfreithiol a statudol yn cael eu cyflawni.
Ein hamcanion:
- Sicrhau bod strwythur y Brifysgol yn hwyluso'i gallu i ddarparu ei swyddogaethau academaidd • Hwyluso prosesau cynhwysol gan sicrhau ansawdd a chydymffurfio
- Galluogi trefn effeithiol ac effeithlon o wneud penderfyniadau ar y lefelau priodol yn y sefydliad
- Bod yn atebol i'w chymunedau
- Sicrhau bod egwyddorion rhyddid academaidd yn cael eu hyrwyddo
- Cefnogi staff a myfyrwyr
Cyllid ac Isadeiledd
Er mwyn cyflawni cenadwri academaidd y Brifysgol rhaid wrth strategaeth ariannol gadarn sy'n galluogi buddsoddi wedi'i gynllunio yn yr ystâd a'r isadeiledd a thrwy hynny wella profiad myfyrwyr a staff.
Ein hamcanion:
- Cyflawni'r Cynllun Gweithredu Cynaliadwyedd
- Datblygu cynlluniau i ganiatáu i'r swyddogaethau academaidd gael eu cynnal trwy sicrhau gwarged ariannol bob blwyddyn
- Gweithio i sicrhau bod costau staff fel cyfran ar y cyfartaledd meincnod
- Gweithredu strategaeth fasnachol integredig wedi'i frandio
- Datblygu strategaeth ystadau ddiwygiedig wedi'i chostio gyda chynllun gweithredu realistig
- Datblygu strategaeth isadeiledd rhithwir gyda chynllun gweithredu realistig
- Datblygu cynlluniau dyngarol a chodi arian i gefnogi blaenoriaethau strategol