Amcanion Cynaladwyedd 2023
Mae’n bleser gan y Gwasanaethau Croeso fod yn rhan o ymrwymiad parhaus Prifysgol Aberystwyth i gynaladwyedd yn ei holl weithrediadau. Cyflwynwn y Cynllun Gweithredu Cynaladwyedd hwn fel dogfen waith. Fel gyda phob cynllun o’r fath, yr unig ffordd y gellir ei wireddu yw drwy ymgysylltiad ein staff, cwsmeriaid a chyflenwyr.
Rydym ni’n croesawu mewnbwn i’r cynllun wrth i ni ymdrechu at sicrhau arferion cynaliadwy gwell a bod yn garbon niwtral.
Olew Palmwydd
Amcan cyffredinol: Yn y pen draw rydym ni’n dymuno tynnu pob cynnyrch sy’n cynnwys olew palmwydd anghynaladwy o’r Gwasanaethau Croeso. Rydym yn bwriadu gwneud hyn drwy ymgysylltu â’r cyflenwyr yn ogystal â darparu gwybodaeth i gwsmeriaid ynghylch pa gynhyrchion sy’n cynnwys olew palmwydd. Rydym ni’n cefnogi cynhyrchu olew palmwydd achrededig cynaliadwy (RSPO) mewn modd cynaliadwy sy’n helpu i atal datgoedwigo; cynorthwyo tâl teg i gymunedau a gweithwyr; yn ogystal â diogelu bywyd gwyllt a’r amgylchedd.
Camau cyflawni:
Gweithredu |
Ble i’w roi ar waith |
Amcan y camau gweithredu |
Dyddiad targed ar gyfer lansio |
Marcio cynhyrchion sy’n cynnwys olew palmwydd gyda’r system labelu ganlynol: Gwyrdd (dim); Melyn (olew palmwydd RSPO); Coch (heb ei achredu) |
Yr holl allfeydd |
Rydym ni am roi’r wybodaeth berthnasol i gwsmeriaid er mwyn iddynt allu gwneud penderfyniadau i brynu’r cynnyrch hwnnw neu beidio. |
Siop Undeb y Myfyrwyr eisoes yn defnyddio’r system hon. Yr holl allfeydd eraill - Ebrill 2023 |
Dyrannu adnoddau i ganfod cynnwys olew palmwydd cynhyrchion a brynir drwy’r llwyfan pwrcasu a thrafod gyda chyflenwyr |
Tîm gweinyddol Penbryn |
Sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei chasglu a’i dilysu ar gynhyrchion. Cysylltu â chyflenwyr i’w hysbysu am gynhyrchion nad ydynt yn cydymffurfio ac felly’n debygol o gael eu tynnu o’r rhestr. |
Mai 2023 |
Adolygu’r holl gynhyrchion sy’n cynnwys olew palmwydd nad yw’n RSPO, gyda dewisiadau amgen os yn bosibl. |
Tîm gweinyddol Penbryn |
Creu gwybodaeth ar gynhyrchion i’w hamnewid am gynhyrchion amgen |
Awst 2023 |
Adolygu’r Polisi Olew Palmwydd |
Yr holl allfeydd |
Sicrhau bod y polisi’n gweithio ac angen adolygu pellach |
Medi 2023 |
Lleihau Gwastraff Bwyd
Amcan cyffredinol: Osgoi unrhyw fwyd a gaiff ei brynu ond na chaiff ei fwyta er mwyn lleihau ôl troed carbon a chynyddu arferion cynaliadwy gan gwsmeriaid a staff. Caiff hyn ei wneud drwy leihau gwastraff ar blatiau (bwyd a brynir ond na chaiff ei fwyta yn yr allfeydd), lleihau faint o fwyd sydd wedi dyddio, yn ogystal â lleihau gwastraff wrth gynhyrchu bwyd. Yna caiff yr holl wastraff a gynhyrchir ei roi mewn biniau ailgylchu bwyd yn yr holl allfeydd.
Camau cyflawni.
Gweithredu |
Ble i’w roi ar waith |
Amcan y camau gweithredu |
Dyddiad targed ar gyfer lansio |
Cyflwyno gostyngiad ar gyfer pob bwyd sy’n agos at y dyddiad gwerthu gyda sticeri ‘pan fydd wedi mynd’
|
Yr holl allfeydd |
Gwerthu bwyd sy’n agos at y dyddiad gwerthu ar bris cost neu’n is i sicrhau y caiff ei fwyta yn hytrach na’i daflu |
Parhaus, ail-lansio posibl er gwybodaeth y cyhoedd |
Rheoli maint cyfrannau gydag ychwanegion ar gyfer llysiau a salad |
Neuadd fwyd, Blas Gogerddan |
Annog cwsmeriaid i fwyta’r bwyd maen nhw’n ei brynu, drwy eu cynorthwyo i wneud penderfyniad bwriadol i’w brynu yn hytrach na’i gael am ei fod wedi’i gynnwys yn y pris |
Medi 2022 |
Cynllunio bwydlenni i ganiatáu cynigion arbennig tymor byr am fwyd o’r gegin, fel prif saig am £4.00 |
Neuadd fwyd, Blas Gogerddan |
Gadael i ni werthu bwyd sydd wedi’i or-gynhyrchu yn gyflym ar bris cost i fyfyrwyr. |
Parhaus |
Mesur y gwastraff bwyd a gynhyrchir yn ôl faint sydd mewn biniau bwyd gan wirio’n wythnosol cyn casglu. (noder na chynhwysir gwastraff bwyd sy’n mynd i finiau compost – Undeb y Myfyrwyr) |
Neuadd fwyd, Pantycelyn |
Monitro ein gwastraff bwyd ac felly helpu i fonitro llwyddiant yr arferion uchod |
Mawrth 2023 |
Rheoli faint o fwyd poeth a gynhyrchir ar gyfer gwasanaeth ar y cownteri poeth tua diwedd yr amser gwasanaeth, o 15 munud cyn cau’r cownter. Er mwyn peidio amnewid seigiau sydd wedi gwerthu allan |
Neuadd fwyd, Blas Gogerddan, Pantycelyn |
Lleihau faint o fwyd sydd wedi’i goginio ac na ellir ei ailddefnyddio ac felly’n gorfod cael ei daflu. |
Ionawr 2023 a pharhaus |
Lleihau defnydd o eitemau tafladwy ar y campws
Amcan cyffredinol: - Yn ein diwylliant o gydio mewn bwyd a mynd, mae galw parhaus am rywfaint o ddefnydd o gynhyrchion tafladwy. Fodd bynnag byddwn yn gyntaf yn ceisio sicrhau bod popeth tafladwy naill ai’n ailgylchadwy neu’n fioddiraddadwy. Yna byddwn yn ceisio lleihau faint o eitemau tafladwy a ddefnyddir ac annog arferion sy’n atgyfnerthu hyn. Byddwn hefyd yn ceisio sicrhau bod mwy o ddeunydd yn cael ei ailgylchu lle bo’n bosibl.
Camau cyflawni.
Gweithredu |
Ble i’w roi ar waith |
Amcan y camau gweithredu |
Dyddiad targed ar gyfer lansio |
Cyflwyno ardoll o 25c ar gwpanau untro sy'n cyd-daro â hyrwyddo'r cyfle i fyfyrwyr a staff gael cwpan cadw yn rhad ac am ddim yn ystod mis Hydref. |
Yr holl allfeydd |
Lleihau defnydd o gwpanau tafladwy ar draws y campws, yr eitem anoddaf ei hailgylchu. |
Hydref 2023 |
Cynyddu’r nifer o ffynonellau dŵr ar y campws drwy osod gorsaf llenwi poteli yn Undeb y Myfyrwyr. |
Adeilad Undeb y Myfyrwyr |
Helpu i atal gwerthiant poteli dŵr plastig |
Medi 2023 |
Cyrchu potel ddŵr amlddefnydd cost effeithiol i ganiatáu ar gyfer gwahardd pob dŵr plastig ar y Campws |
I’w gadarnhau |
Ceisio dod o hyd i botel amlddefnydd sy’n rhatach na chost potel ddŵr defnydd untro |
Parhaus - uchelgais |
Yr holl fwyd a diod ar y safle’n cael eu gweini ar lestri tsieni a gwydr y gellir eu hailddefnyddio |
Neuadd fwyd, Pantycelyn, IBERbach, Bar Undeb y Myfyrwyr |
Sicrhau y defnyddir nwyddau tafladwy ar gyfer prydau parod i fynd yn unig. |
Mehefin 2023 |
Cynyddu’r nifer o finiau ailgylchu ac arwyddion yn yr holl allfeydd |
Yr holl allfeydd |
Cynyddu faint mae ein cwsmeriaid yn ei ailgylchu |
Mehefin 2023
|
Gwaredu pecynnau saws a chynfennau untro a defnyddio poteli saws yn lle |
Yr holl allfeydd |
Gwaredu’r pecynnau defnydd untro gydag arwyddion esboniadol |
Medi 2023 |
Ail-lansio Diwrnod Di-blastig |
Yr holl allfeydd |
Cynyddu’r drafodaeth wrth leihau plastigau defnydd untro. |
Ebrill 2023 |
Monitro ffrydiau tirlenwi ac ailgylchu a chofnodi |
Yr holl allfeydd |
Ein galluogi i fonitro lleihad mewn sbwriel tirlenwi |
Medi 2023 |
Gwneud pecynnu plastig yn sgôr negatif ar dendrau cyflenwyr Lletygarwch |
Pwrcasu canolog |
Annog deunyddiau ailgylchadwy mewn pecynnu ac wrth ddanfon nwyddau. |
Parhaus |
Newid yr holl gwpanau tafladwy a ddefnyddir mewn cynadleddau drwy brynu dewisiadau amgen y gellir eu hailddefnyddio a sefydlu strwythur o ddosbarthu a chasglu |
Tîm cynadledda |
Atal y defnydd o gwpanau tafladwy yn llwyr mewn cynadleddau. |
Medi 2023
|
Poteli dŵr y gellir eu hail-lenwi yn unig yn Medrus |
Tîm cynadledda |
Lleihau defnydd diangen o blastig |
Awst |
Y Daith at Garbon Sero Net
Amcan cyffredinol: - Mae Aberystwyth wedi ymrwymo i gyflawni targed di-garbon erbyn y flwyddyn 2030-31. Bydd y Gwasanaethau Croeso yn monitro ac yn adolygu ei arferion i leihau ein hallyriadau o fewn cwmpas 1, 2 a 3 ein gweithrediadau.
Cwmpas 1 yw ffynonellau allyriadau uniongyrchol yn deillio o beiriannau, cyfleusterau a cherbydau’n eiddo i’r cwmni. Cwmpas 2 yw ffynonellau allyriadau anuniongyrchol yn gysylltiedig â chynhyrchu trydan, gwres, stêm a/neu oeri. Cwmpas 3 yw allyriadau anuniongyrchol yn deillio o bob gweithgarwch a ffynhonnell arall nad ydynt o fewn Cwmpas 2; gan gynnwys teithio busnes, cymudo, gwastraff a danfoniadau trydydd parti.
Camau cyflawni.
Gweithredu |
Ble i’w roi ar waith |
Amcan y camau gweithredu |
Dyddiad targed ar gyfer lansio |
Ceisio nodi ffynhonnell carbon ar gyfer eitemau’r fwydlen drwy’r porth pwrcasu |
Pwrcasu canolog |
Gallu edrych am eitemau amgen i sicrhau ôl troed carbon is. |
Rhagfyr 2023 |
Adeiladu ôl troed carbon pob bwydlen drwy feddalwedd procure wizard a chofnodi |
Pwrcasu canolog |
Gallu dadansoddi a chyflwyno newidiadau bwydlen i leihau carbon yng nghwmpas 1 a 3 |
Rhagfyr 2023 |
Hoffem osod arwyddion carbon ar fwydlenni i helpu i lywio ymddygiad y cyhoedd |
Yr holl allfeydd |
Galluogi ein cwsmeriaid i wneud dewisiadau pwrcasu gwybodus. |
Uchelgais |
Ei gwneud yn ofynnol i bob cyflenwr ymrwymo i fod yn ddi-garbon yn eu gweithrediadau drwy’r broses dendro |
Pwrcasu canolog |
Helpu i leihau carbon o gwmpas 3 |
Parhaus |
Lleihau defnydd o garbon mewn oergelloedd gyda socedi plwg Bluetooth i alluogi diffodd oergelloedd heb fwydydd hanfodol dros nos |
Yr holl allfeydd |
Lleihau defnydd diangen o garbon a thrydan. |
Awst 2023 |
Gwirio sêl oergelloedd i leihau defnydd ynni ac effeithlonrwydd |
Yr holl allfeydd |
Lleihau defnydd o ynni |
Awst 2023 ac yn flynyddol |
Defnyddio cerbydau trydan yn unig yn yr adran |
Gwasanaethau Croeso |
2 fan trydan newydd wedi’u pwrcasu |
Parhaus |
Gwaredu pob offer Nwy ar ddiwedd ei oes |
Yr holl allfeydd |
Lleihau’r carbon a gynhyrchir wrth gynhyrchu bwyd |
Parhaus |
Adolygu offer cegin a’i ddefnydd drwy fonitro perfformiad ynni, arwain adolygiad o ddulliau cynhyrchu a chylch oes offer yn amodol ar gyfyngiadau cyflenwad pŵer |
Yr holl allfeydd |
Lleihau defnydd o ynni |
Tachwedd |
Galluogi darllen y defnydd o bŵer ym mhob allfa yn unigol |
Yr holl allfeydd |
Galluogi staff i fonitro a gweld y defnydd o ynni a sicrhau arbedion |
Tachwedd |
Arferion a phwrcasu moesegol
Amcan cyffredinol: - Mae’r Gwasanaethau Croeso yn mesur perfformiad yn defnyddio’r dull triphlyg pobl, elw a phlaned. Rydym yn ceisio sicrhau ein bod yn dilyn y canllawiau pwrcasu moesegol drwy geisio sicrhau ein bod yn dilyn 17 Nod Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig.
Drwy ofyn am ymddygiad moesegol a chynaliadwy gan ein cyflenwyr ein gobaith yw y gallwn annog a dathlu ymddygiad sydd o fudd i bawb.
Camau cyflawni.
Gweithredu |
Ble i’w roi ar waith |
Amcan y camau gweithredu |
Dyddiad targed ar gyfer lansio |
Ei gwneud yn ofynnol i’r holl gyflenwyr ymrwymo i dalu’r cyflog byw |
Pwrcasu canolog |
Hyrwyddo cyflog teg i’r holl weithwyr ac isgontractwyr |
Parhaus |
Sicrhau bod yr holl gwmnïau sy’n cyflenwi’r Gwasanaethau Croeso wedi ymrwymo i gydymffurfio â 17 Nod Datblygu Cynaliadwy’r CU |
Pwrcasu canolog |
Hyrwyddo arfer da ymhlith ein cyflenwyr |
Parhaus |
Gosod polisi pwrcasu o brynu’n lleol, yng Nghymru ac yna ym Mhrydain lle bo’n bosibl o fewn gweithdrefnau ariannol y Brifysgol |
Pwrcasu canolog |
Ein galluogi i brynu cynnyrch mor lleol â phosibl |
Parhaus |
Gofyn i’n prif gyflenwyr gyflenwi meini prawf mesur blynyddol ar gyfer eu harferion cynaliadwy i sicrhau gwelliant parhaus |
Pwrcasu canolog |
Hyrwyddo gwelliant parhaus gan ein cyflenwyr ar gyfer eu datblygiad cynaliadwy a Di-garbon |
Adolygiad blynyddol yn Awst i bob cyflenwr |
Sicrhau bod yr holl gyflenwyr wedi ymrwymo i gydymffurfio â Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015 fel rhagofyniad ar gyfer ymdrin â’r Gwasanaethau Croeso |
Pwrcasu canolog |
Drwy holiadur blynyddol i’r holl gyflenwyr i sicrhau cydymffurfiaeth |
Parhaus |
Gweithio at fabwysiadu ‘Bwydlenni dros Newid’ ym mhob pwrcasiad, cynhyrchu a gwasanaeth bwyd |
Yr holl allfeydd |
I’w ddefnyddio fel canllaw i’n staff cynhyrchu bwyd ym mhob maes i gynorthwyo i wella ein cynaladwyedd |
Dechrau’r broses erbyn Mehefin 23 |
https://www.tuco.ac.uk/procurement/sustainability/menus-of-change