Loceri
Loceri dyddiol - Llyfrgell Hugh Owen
Mae loceri wedi'u lleoli ar bob llawr yn Llyfrgell Hugh Owen maent ar gael i bob myfyriwr i'w defnyddio am ddiwrnod ar y tro ar sail y cyntaf i’r felin caiff falu.
Mae'r loceri hyn:
- yn rhad ac am ddim i'w defnyddio
- yn cael eu benthyca ar eich Cerdyn Aber
- ar gael tan 9 o'r gloch y bore canlynol
Os hoffech ddefnyddio un o'r loceri hyn, gofynnwch wrth y Ddesg Ymholiadau ar Lefel D
Nodir
- Codir dirwy os na fyddwch wedi dychwelyd allwedd y locer i'r Ddesg Ymholiadau erbyn y dyddiad/amser dyledus
- os collwch yr allwedd codir tal llawn o £12 sef pris amnewid
Loceri Benthyciad Hir - Llyfrgell Hugh Owen
Mae'r loceri wedi eu lleoli ar pob llawr yn Llyfrgell Hugh Owen sydd ar gael ar gyfer bob myfyriwr maent ar gael ar sail y cyntaf i’r felin caiff falu.
Mae'r loceri hyn:
- yn rhad ac am ddim i'w defnyddio
- yn cael eu benthyca ar eich Cerdyn Aber
- ar gael i fenthyg am cyfnod o 12 wythnos
Os hofech ddefnyddio un o'r loceri hyn gofynnwch wrth y Ddesg Ymholiadau ar Llawr D yn Llyfrgell Hugh Owen
Nodir
- Codir dirwy os na fyddwch wedi dychwelyd allwedd y locer yn ôl wrth y Ddesg Ymholiadau erbyn y dyddiad/amser dyledus
- os collwch yr allwedd codir tal llawn o £12 sef pris amnewid
Rheoliadau Loceri:
- Ni ddylid cadw eitemau darfodus yn y locer.
- Dim ond deunydd personol a deunydd llyfrgell sydd wedi ei fenthyca y gellir eu cadw yn y locer.
- Ni ddylid cadw unrhyw ddeunyddiau peryglus yn y locer.
- Rhaid i unrhyw lyfrau neu ddeunyddiau llyfrgell PA a gedwir yn y locer fod wedi eu benthyca gan yr unigolyn sy’n defnyddio’r locer.
- Os canfyddir unrhyw eitemau Llyfrgell sydd yn orddyledus yn eich locer mi fyddent yn cael ddychwelyd yn syth.
- Os canfyddir unrhyw lyfrau neu ddeunydd Llyfrgell sydd heb ei fenthyca yn y locer caiff ei ddychwelyd yn syth i’r silffoedd.
- Mi fydd eitemau darfodus a chanfyddir yn y locer yn cael ei waredi.
- Mae hawl gan aelodau staff y Gwasanaethau Gwybodaeth gael mynediad i loceri heb rybuddio’r defnyddiwr at ddibenion diogelwch, cynnal a chadw, atgyweirio ac i chwilio am ddeunyddiau llyfrgell sydd heb ei fenthyca ac unrhyw ddibenion eraill fel bo’r angen.
- Nid yw Gwasanaethau Gwybodaeth yn atebol am eitemau coll neu eitemau sydd wedi eu dwyn.
- Os camddefnyddir loceri gellir diddymu’r hawl i’w defnyddio.