Newyddion

Mae enwau lleoedd Cymru, a'r straeon y maen nhw'n eu hadrodd, yn cael eu dileu
Mewn erthygl yn The Conversation, mae'r Athro Rhys Jones o'r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yn trafod dileu enwau lleoedd Cymru a'r awydd cynyddol i'w diogelu ac i warchod eu hanes.
Darllen erthygl
Diolch i staff a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth am "flwyddyn o gynnydd mawr"
Mae Cadeirydd ac Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth wedi diolch i staff a myfyrwyr y sefydliad ar ôl blwyddyn o gyflawniadau sylweddol sydd wedi’u hamlygu yn yr adroddiad blynyddol diweddaraf.
Darllen erthygl
Rhyfel Wcráin: mae agweddau at fenywod yn y fyddin yn newid wrth i filoedd wasanaethu ar y rheng flaen
Mewn erthygl ar gyfer The Conversation, mae Dr Jenny Mathers o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol a’r ysgolhaig o Wcráin, Anna Kvit, Cymrawd Ymchwil Gwadd yng Ngholeg Prifysgol Llundain yn trafod newidiadau mewn agweddau cyhoeddus yn Wcráin tuag at fenywod yn gwasanaethu yn y fyddin, ac a fydd yr agweddau hynny'n newid yn ôl wedi’r rhyfel.
Darllen erthygl
Y Frwydr dros Harddwch - pam ei bod yn bwysicach nag erioed
Bydd y Fonesig Fiona Reynolds DBE yn cyflwyno darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Aberystwyth yn rhan o’r dathliadau i nodi 150 mlwyddiant y sefydliad.
Darllen erthygl
Hanesydd blaenllaw ar gaethwasiaeth i draddodi darlith ar ddigolledu
Bydd hanesydd blaenllaw ar gaethwasiaeth yn traddodi darlith gyhoeddus ar gyfiawnder adferol ym Mhrifysgol Aberystwyth ddechrau mis nesaf (dydd Llun 6 Chwefror).
Darllen erthygl
Adnoddau dementia enillwyr Dragon’s Den yng nghanolfan nyrsio Prifysgol Aberystwyth
Mae un o enillwyr cystadleuaeth Dragon’s Den wedi gosod adnoddau ar gyfer addysgu myfyrwyr nyrsio am ddementia fel rhan o Ganolfan Gofal Iechyd newydd Prifysgol Aberystwyth.
Darllen erthygl
Sgwrs gan fab ffoaduriaid o’r Almaen i nodi Diwrnod Cofio'r Holocost
Bydd y Ganolfan Astudio Symudedd Pobl yn nodi Diwrnod Cofio'r Holocost 2023 trwy gynnal sgwrs gan addysgwr am yr Holocost y bu’n rhaid i’w rieni ffoi o'r Almaen yn sgil yr unbennaeth Sosialaeth Genedlaethol.
Darllen erthygl
Prifysgol Aberystwyth yn croesawu Prif Arweinydd y Ganolfan Ddeialog newydd
Mae arbenigwraig flaenllaw ar y berthynas rhwng deialog a chyfnewid gwybodaeth wedi cychwyn ar ei swydd fel Prif Arweinydd Canolfan Ddeialog newydd Prifysgol Aberystwyth.
Darllen erthygl
Gallai athrawon iaith ddefnyddio nofelau graffeg yn hytrach na thraethodau wrth asesu myfyrwyr
Gellid defnyddio clownio, dramâu radio a nofelau graffeg i asesu myfyrwyr sy’n dysgu ieithoedd, yn ôl gwaith sy’n cael ei arwain gan Brifysgol Aberystwyth.
Darllen erthygl
Map byd-eang newydd o fywyd y tu mewn i'r Ddaear yn datgelu glo llawn bacteria
Mae glo yn syndod o gyfoethog mewn bacteria yn ôl atlas cyntaf y byd o fioamrywiaeth ficrobaidd yn ddwfn o dan wyneb y Ddaear, a gafodd ei ddatblygu gan academyddion ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Darllen erthygl
Yr Hen Galan: pam fod un gymuned Gymraeg yn dathlu'r flwyddyn newydd ar Ionawr 14
Mewn erthygl yn The Conversation, mae Dr Eryn White o'r Adran Hanes a Hanes Cymru yn taflu goleuni ar pam mae pentref yn Sir Benfro yn dathlu'r flwyddyn newydd bythefnos ar ôl gweddill y DU.
Darllen erthygl
Adroddiad Blynyddol Safonau’r Gymraeg
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi Adroddiad Blynyddol Safonau’r Gymraeg ar gyfer y flwyddyn 1 Awst 2021 tan 31 Gorffennaf 2022.
Darllen erthygl
Rhyfel Wcráin: pam nad yw mamau milwyr Rwsia yn dangos y gwrthwynebiad cryf a ddangoson nhw mewn gwrthdaro blaenorol
Mewn erthygl yn The Conversation, mae Dr Jenny Mathers o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ynghyd â Natasha Danilova o Brifysgol Aberdeen yn trafod ymateb mamau milwyr Rwsia i’r rhyfel yn Wcráin.
Darllen erthygl
Cyfle i ffermwyr ddefnyddio planhigyn cynhenid i droi gwastraff yn borthiant
Gallai ffermwyr ddefnyddio planhigyn cynhenid i Gymru i droi gwastraff amaeth yn borthiant ar gyfer da byw fel rhan o brosiect ymchwil Prifysgol Aberystwyth.
Darllen erthyglPrifysgol Aberystwyth yn croesawu myfyrwyr o Wcráin
Wrth i ryfel Wcráin barhau, mae Prifysgol Aberystwyth wedi bod yn adeiladu ar y cysylltiad a sefydlwyd gyda Phrifysgol Genedlaethol Economeg Odesa (PGEO) fel rhan o drefniant gefeillio ar draws y Deyrnas Gyfunol i gefnogi myfyrwyr a staff academaidd y wlad.
Darllen erthygl
Myfyrwyr yn Aberystwyth yn creu adnoddau i ddysgu plant am droseddau ieuenctid
Roedd cân fachog wedi’i chwarae ar iwcalili a gêm gyfrifiadurol newydd ymhlith yr adnoddau arloesol yr aeth myfyrwyr Troseddeg Prifysgol Aberystwyth ati i’w dylunio ar gyfer plant ysgolion cynradd.
Darllen erthygl
Mae angen i lywodraethau “newid yn sylweddol” y modd maen nhw’n delio â’r argyfwng bioamrywiaeth, dywed ymchwilydd
Dyw llywodraethau ddim yn gwneud digon i flaenoriaethu bioamrywiaeth o ran eu polisïau gwyrdd, yn ôl academydd o Brifysgol Aberystwyth wrth siarad yn COP15 yng Nghanada.
Darllen erthygl