Cyfarpar Ymchwil
Mae gan Brifysgol Aberystwyth ystod eang o gyfarpar a chyfleusterau ymchwil; mae i ni hanes cadarn o gydweithio gyda sefydliadau a chwmnïau cenedlaethol a rhyngwladol, a hoffem hyrwyddo’r perthnasau hyn drwy ddarparu deunydd neu wasanaeth ein rhwydwaith ymchwil mewnol.
Yn dilyn adroddiad Wakeham ar Gynaladwyedd ac Effeithiolrwydd mewn Addysg Uwch; mae Prifysgol Aberystwyth wedi sefydlu prosiect gyfredol i gynhyrchu a chynnal cronfa ddata ganolog o’n cyfarpar a’n cyfleusterau ymchwil.
Bydd y gronfa ddata yn galluogi:
- Ymchwilwyr i adnabod adnoddau sydd eisoes yn bod i’w cynnwys er mwyn cefnogi cynigion ymchwil.
- Cyfleoedd pellach ar gyfer ariannu yn unol â chanllawiau newydd Cynghorau Ymchwil y DU (RCUK).
- Meithrin diwylliant o rannu; i wella effeithiolrwydd adnoddau.
Bwriad y gronfa ddata yw cael y gwerth a’r deunydd gorau posibl o’r cyfarpar sydd gennym tra’n osgoi’r gost o ddyblygu. Mae’r prosiect yn ymateb i ganllawiau newydd ar gyfer ceisiadau am grant i Gynghorau Ymchwil sy’n galw am ystyriaeth i rannu cyfarpar cyn i’r opsiwn o bwrcasu gael ei ystyried.
Mae cronfa ddata fewnol Prifysgol Aberystwyth yn cael ei chadw yn ein System Gwybodaeth Ymchwil Gyfredol (CRIS): PURE. Mae ar gael i'w weld yma.
Rydyn ni hefyd yn cyfrannu i gronfa ddata cyfarpar ymchwil y DU a gedwir yn equipment.data. Siop un safle yw equipment.data sy’n cael ei hariannu gan y Cyngor Ymchwil Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg (EPSRC) ar gyfer cyrchu cyfarpar ymchwil ledled y DU mewn unrhyw sefydliad sy’n cyfrannu. Mae’n darparu porth syml i gyrchu’r cronfeydd data hyn a’i fwriad yw gwella effeithiolrwydd a symbylu cydweithrediad.
Rydyn ni wedi cyflawni cydymffurfiad aur yn ôl eu safonau drwy wneud ein cronfa ddata mor hawdd i’w darganfod a’i harchwilio ag sy’n bosibl.