Ymchwil ar Waith

Bwyta'n Iach
Canolbwynt fy ymchwil yw datblygu diagnosteg
foleciwlaidd i fesur yn gywir beth mae pobl yn ei
fwyta a dangos sut y gellir canfod metabolion sy’n
deillio o gemegau nodedig mewn bwydydd penodol
mewn wrin y diwrnod ar ôl eu bwyta.
Yr Athro John Draper
Darganfod mwy
Corona yr Haul
Mae fy ymchwil yn ymwneud ag atmosffer dirgel yr Haul sy’n cael ei adnabod fel y corona. Mae’r corona gannoedd o weithiau’n boethach nag arwyneb yr Haul. Gall digwyddiadau yn y corona effeithio ar y Ddaear a’r technolegau rydyn ni’n dibynnu arnyn nhw fel lloerennau, darllediadau radio a gridiau trydan.
Youra Taroyan
Darganfod mwy
Kindertransport
Mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar y 10,000 o blant
wnaeth ffoi o Ganolbarth Ewrop i’r Deyrnas Unedig
fel rhan o’r hyn a elwir yn Kindertransport. Roedd eu
teuluoedd yn cael eu herlid gan gyfundrefn unben y
Sosialwyr Cenedlaethol a’u cyfreithiau hiliol oedd yn
eu diffinio fel Iddewon.
Dr Andrea Hammel
Darganfod mwy
Masnachu Mewn Pobl
“Bu’r Athro Piotrowicz yn aelod gweithgar iawn o GRETA, gan gyfrannu at ddatblygu polisïau yn ogystal â gwaith monitro. Mae'r ddwy elfen yma’n dylanwadu'n uniongyrchol ar weithredoedd gwladwriaethau o ran cynorthwyo pobl sydd wedi'u masnachu ac erlyn y troseddwyr” - Dr Petya Nestorova, Ysgrifennydd Gweithredol GRETA, Grŵp Arbenigwyr Cyngor Ewrop ar Weithredu yn erbyn Masnachu mewn Pobl.
Yr Athro Ryszard Piotrowicz
Darganfod mwy
Perfformiad ac Anabledd
Mae fy ymchwil wedi’i seilio mewn ymarfer.
Rwyf i wedi bod yn gweithio ers 1987 gyda chwmni
dawns-drama Cyrff Ystwyth lle mae pobl gydag a heb
anableddau dysgu’n dilyn gwaith cydweithwyr sydd
ag anableddau dysgu.
Dr Margaret Ames
Darganfod mwy
Polisi Iaith
Lleolir ein hymchwil ym maes rhyngddisgyblaethol
astudiaethau polisi iaith ac mae gwaith diweddar
wedi canolbwyntio ar ddadansoddi ymyriadau polisi
gan lywodraethau is-wladwriaethol Ewropeaidd â’r
nod o adfywio ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol.
Dr Huw Lewis, Dr Elin Royles, Dr Catrin Wyn Edwards
Darganfod mwy
Rhagfynegi Emosiwn
Ffocws fy ngwaith yw ceisio rhagweld yn awtomatig
y chwe emosiwn dynol - sef hapusrwydd, tristwch,
ofn, ffieidd-dod, syndod a dicter - o’r mynegiant ar
wynebau dynol ar fideo.
Dr Neil Mac Parthaláin
Darganfod mwy
Rhewlifeg
Mae ymchwil y Ganolfan Rewlifeg yn
canolbwyntio ar astudio ac egluro
newidiadau i rewlifau a llenni iâ.
Yr Athro Bryn Hubbard
Darganfod mwy