Aber Ar Agor

Logo Aber ar Agor

Bellach yn ei 18fed flwyddyn, nod rhaglen flaenllaw Prifysgol Haf Aberystwyth yw ehangu mynediad i addysg uwch.

Nod rhaglen flaenllaw Prifysgol Haf Aberystwyth, sydd bellach yn 18 oed, yw ehangu mynediad i addysg uwch. Gan adeiladu ar lwyddiant y gorffennol, bydd y rhaglen yn cael ei hail-lansio dan y teitl ‘Aber Ar Agor’ yn 2023, a bydd yn cael ei threfnu a’i rhedeg gan Dîm Denu Myfyrwyr ac Ehangu Cyfranogiad Prifysgol Aberystwyth.

Bydd Aber Ar Agor yn cynnal rhaglen breswyl ragorol 5 diwrnod ei hyd sy’n ceisio paratoi myfyrwyr yn well ar gyfer bywyd prifysgol. Bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau academaidd allweddol, a bydd sesiynau mwy cymdeithasol ac addysgiadol yn cael eu cynnal i ennyn diddordeb pobl ifanc mewn bywyd prifysgol ac i gefnogi eu ceisiadau UCAS.

Bydd tua 100 o leoedd i fyfyrwyr o bob rhan o Gymru. Rydym yn targedu myfyrwyr sy’n bodloni meini prawf ehangu mynediad, gan ganolbwyntio, ymhlith eraill, ar y rhai:

  • O godau post sydd yn ardaloedd cwintelau isaf (1 a 2) MALlC (Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru),
  • Sydd wedi bod mewn gofal (wedi treulio tri mis neu fwy mewn gofal ers pan oeddent yn 14 oed.)
  • Y genhedlaeth gyntaf yn y teulu i fynd i'r Brifysgol.
  • Sydd wedi ymddieithrio oddi wrth eu teulu.
  • Sy’n perthyn i un o’r categorïau mewnfudo canlynol; ffoadur, diogelwch dyngarol, ceisiwr lloches.

Dros y 18 mlynedd diwethaf mae'r Brifysgol wedi rhoi cyfle i ystod eang o fyfyrwyr brofi bywyd yn y brifysgol gan addasu i’r profiad o fyw i ffwrdd o gartref, y pwysau cyfunol o waith academaidd a therfynau amser, chwaraeon a gweithgareddau.

“Bob blwyddyn, mae Prifysgol Haf Aberystwyth yn helpu pobl ifanc i oresgyn rhai o’r rhwystrau posibl a wynebir wrth ymgeisio am addysg uwch. Y nod yw codi eu dyheadau a chynnig cyfle unigryw iddynt archwilio’u potensial wrth brofi pob agwedd o fywyd prifysgol. Fel sefydliad, rydyn ni’n rhoi pwyslais mawr ar ehangu mynediad a chael gwared ar rwystrau i addysg uwch - boed yn rhwystrau corfforol, cymdeithasol, diwylliannol neu ariannol.” Dr Rhodri Llwyd Morgan, Cyfarwyddwr y Gymraeg a Chysylltiadau Allanol.

Ers 2012, mae tua 83% o’r myfyrwyr sydd wedi cwblhau Prifysgol Haf Aberystwyth wedi llwyddo i fynd ymlaen i Addysg Uwch neu brentisiaethau lefel uwch.

Mae Prifysgol Haf Aberystwyth nid yn unig o fudd i’r bobl ifanc sy’n cwblhau’r cwrs, ond mae hefyd yn cynnig profiad gwaith gwerthfawr i fyfyrwyr presennol o Brifysgol Aberystwyth weithio fel Arweinwyr Myfyrwyr. Mae ein Arweinwyr Myfyrwyr yn ennill profiad gwaith o ansawdd wrth iddyn nhw gynorthwyo gyda gofal bugeiliol a chydlynu chwaraeon a gweithgareddau cymdeithasol ar y cwrs. Maent yn fyfyrwyr presennol sydd wedi cael eu hyfforddi i ddarparu lefel uchel o gymhelliant a gofal i’r myfyrwyr haf - nid yw rhai ohonynt wedi aros oddi cartref o’r blaen. Mae’r cyfle hwn yn eu galluogi i gyfoethogi eu sgiliau a chynyddu eu cyfleoedd cyflogaeth.

 

Aber Ar Agor 2023

Bydd ceisiadau i Brifysgol Haf 2023 Prifysgol Aberystwyth yn agor ym mis Rhagfyr 2022 i bobl ifanc sy’n astudio ar hyn o bryd tuag at Safon Uwch neu NVQ Lefel 3. Bydd rhaglen 2023 yn rhedeg o ddydd Llun, y 10fed o Orffennaf i ddydd Gwener, y 14eg o Orffennaf. Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ac mae blaenoriaeth i geisiadau gan fyfyrwyr sy'n bodloni prif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Cadwch lygad ar ein tudalen we i gael y wybodaeth ddiweddaraf ynghyd â ffurflen archebu.